Y mis diwetha, fe wnaeth Verity gyfarfod ag ymchwilwyr o bob cwr o’r byd yn Vilnius, Lithwania, ar gyfer Cyngres Cymdeithas Ryngwladol er Atal Cam-drin ac Esgeuluso Plant (ISPCAN) 2025.
Rhoddodd gyflwyniad yn tynnu sylw at brif ganlyniadau dwy “Uwchgynhadledd DA a Gofal Cymdeithasol Cymru” ddiweddar SCALE:
- Dylai DA gefnogi, nid newid, cyswllt dynol ym maes gofal cymdeithasol.
- Mae angen hyfforddiant ar weithwyr cymdeithasol mewn llythrennedd DA i sicrhau mabwysiadu a defnyddio DA yn gyfrifol.
- Mae ystyriaethau allweddol er budd DA cyfrifol ym maes gofal cymdeithasol yn cynnwys lliniaru rhagfarn, diogelwch data, cywirdeb a chynaliadwyedd.
- Mae gan DA y potensial i wella penderfyniadau i amddiffyn plant ond rhaid ei ddefnyddio’n ofalus.

Y canfyddiad allweddol? Wrth i dechnolegau DA gael eu hintegreiddio i systemau amddiffyn plant, mae angen brys, byd-eang am ymchwil sy’n seiliedig ar dystiolaeth i lywio polisi ac ymarfer. Rydyn ni’n gobeithio y gall SCALE fynd i’r afael â’r bwlch ymchwil DA ym maes gofal cymdeithasol plant.
ISPCAN yw’r Gymdeithas Ryngwladol er Atal Cam-drin ac Esgeuluso Plant. Sefydliad amlddisgyblaethol sy’n uno gweithwyr proffesiynol o feysydd meddygaeth, gwaith cymdeithasol, y gyfraith, iechyd y cyhoedd, ac iechyd meddwl.
Dywedodd Verity:
“Roedd hi’n werthfawr iawn cael dysgu gan weithwyr proffesiynol ac ymchwilwyr eraill am eu safbwyntiau, eu pryderon a’u dyheadau ynghylch DA. Trafodon ni her llythrennedd DA a phwysigrwydd cynnwys datblygwyr technoleg, plant, teuluoedd, ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol wrth fynd i’r afael â rhai o’r bygythiadau a’r cyfleoedd allweddol a ddaw yn sgil DA ym maes amddiffyn plant. Cefais fy ysbrydoli gan eu hangerdd a’u natur benderfynol i weithredu – cadwch lygad allan am waith ar y cyd yn y dyfodol!”