Cynhadledd flynyddol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

16 Mis Hydref 2025

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi ariannu SCALE gyda chyllid catalytig o £1.8 miliwn ac roedd aelodau’r tîm yn falch iawn o gael eu gwahodd i fynd i’r gynhadledd flynyddol yng Ngerddi Sophia. Eleni nodwyd eu degfed pen-blwydd a chafwyd prif areithiau diddorol, cyfarfodydd llawn, sesiynau cyfochrog, a hyd yn oed ychydig o farddoniaeth!

Roedd ein Cyfarwyddwr yr Athro Stuart Allen yn rhan o sesiwn Sut fydd DA yn gwneud gwahaniaeth i ymchwil? ar y cyd â’r Athro Reyer Zwiggelaar lle tynnodd sylw at ein cenhadaeth yn SCALE i fanteisio ar botensial DA i fynd i’r afael â heriau yn y sector gofal cymdeithasol ac adeiladu gwasanaethau gofal cymdeithasol mwy craff, mwy ystwyth a mwy effeithiol sy’n ddyneiddiol, yn dryloyw, yn deg, ac wedi’u seilio ar brofiad bywyd.

Yn ogystal, roedd SCALE yn rhan o stondin arddangos gyda’n cydweithwyr o CASCADE a CARE. Fe wnaeth ymwelwyr fwynhau cymryd rhan mewn gweithgaredd lle buon nhw’n teipio eu hatebion i ‘Disgrifiwch eich gweledigaeth ar gyfer DA yn nyfodol gofal cymdeithasol’ ac yna cynhyrchodd ein peiriant codio DA clyfar ddelwedd yn seiliedig ar yr hyn roedden nhw wedi’i deipio. Roedd y delweddau’n amrywio o robotiaid i adroddiadau a gynhyrchwyd gan gyfrifiadur, gyda rhai’n edrych yn debyg i stribed llyfr comig ac eraill wedi’u dylanwadu gan William Morris!

Mynd i’r afael â’r Bwlch Ymchwil Deallusrwydd Artiffisial (DA) ym maes Gofal Cymdeithasol Plant

Y mis diwetha, fe wnaeth Verity gyfarfod ag ymchwilwyr o bob cwr o’r byd yn Vilnius, Lithwania, ar gyfer Cyngres Cymdeithas Ryngwladol er Atal Cam-drin ac Esgeuluso Plant (ISPCAN) 2025.

Rhoddodd gyflwyniad yn tynnu sylw at brif ganlyniadau dwy “Uwchgynhadledd DA a Gofal Cymdeithasol Cymru” ddiweddar SCALE:

  1. Dylai DA gefnogi, nid newid, cyswllt dynol ym maes gofal cymdeithasol.
  2. Mae angen hyfforddiant ar weithwyr cymdeithasol mewn llythrennedd DA i sicrhau mabwysiadu a defnyddio DA yn gyfrifol.
  3. Mae ystyriaethau allweddol er budd DA cyfrifol ym maes gofal cymdeithasol yn cynnwys lliniaru rhagfarn, diogelwch data, cywirdeb a chynaliadwyedd.
  4. Mae gan DA y potensial i wella penderfyniadau i amddiffyn plant ond rhaid ei ddefnyddio’n ofalus.

Y canfyddiad allweddol? Wrth i dechnolegau DA gael eu hintegreiddio i systemau amddiffyn plant, mae angen brys, byd-eang am ymchwil sy’n seiliedig ar dystiolaeth i lywio polisi ac ymarfer. Rydyn ni’n gobeithio y gall SCALE fynd i’r afael â’r bwlch ymchwil DA ym maes gofal cymdeithasol plant.

ISPCAN yw’r Gymdeithas Ryngwladol er Atal Cam-drin ac Esgeuluso Plant. Sefydliad amlddisgyblaethol sy’n uno gweithwyr proffesiynol o feysydd meddygaeth, gwaith cymdeithasol, y gyfraith, iechyd y cyhoedd, ac iechyd meddwl.

Dywedodd Verity:

“Roedd hi’n werthfawr iawn cael dysgu gan weithwyr proffesiynol ac ymchwilwyr eraill am eu safbwyntiau, eu pryderon a’u dyheadau ynghylch DA. Trafodon ni her llythrennedd DA a phwysigrwydd cynnwys datblygwyr technoleg, plant, teuluoedd, ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol wrth fynd i’r afael â rhai o’r bygythiadau a’r cyfleoedd allweddol a ddaw yn sgil DA ym maes amddiffyn plant. Cefais fy ysbrydoli gan eu hangerdd a’u natur benderfynol i weithredu – cadwch lygad allan am waith ar y cyd yn y dyfodol!”