Bydd y Ganolfan Gofal Cymdeithasol a Dysgu Deallusrwydd Artiffisial (SCALE) yn harneisio potensial Deallusrwydd Artiffisial ym maes gofal, gyda’r nod o roi hwb i weithgarwch ac adeiladu màs critigol mewn maes ymchwil trawsddisgyblaethol newydd, cyffrous a chyflym.

Bydd SCALE yn sicrhau effaith go iawn trwy roi’r rhai sydd â phrofiad uniongyrchol o wasanaethau wrth wraidd ein gwaith. Byddwn yn cynnwys defnyddwyr gwasanaeth o ofal cymdeithasol oedolion a phlant, yn ogystal ag ymarferwyr a llunwyr polisi, i adeiladu cydweithrediadau hirdymor cynaliadwy ac i sicrhau cyllid allanol.
