Ar hyn o bryd, rydyn ni’n sefydlu Grŵp Cynghori ar Gynnwys y Cyhoedd fydd yn cynnwys gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol. Diben y grŵp hwn yw creu lle cadarnhaol a chydweithredol i weithwyr proffesiynol angerddol i drafod sut mae DA yn gallu cefnogi gwaith gofal cymdeithasol a gwella canlyniadau i unigolion sydd â phrofiad bywyd a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn y maes.
Bydd eich arbenigedd a’ch gwybodaeth yn amhrisiadwy wrth i ni wneud y canlynol:
- Datblygu syniadau ar gyfer cynigion ymchwil
- Creu adnoddau ar y cyd at ddibenion hyfforddiant proffesiynol
- Bod yn un llais i sicrhau bod DA yn cael ei ddefnyddio’n foesegol ym maes gofal cymdeithasol
- Ystyried cyfleoedd i weithio ar y cyd ac arloesi.
Os hoffech chi fod yn rhan o’r grŵp hwn neu eisiau rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at Katrina Jones SCALE@caerdydd.ac.uk . Dilynwch ni ar LinkedIn i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau a chyfleoedd cynnwys y cyhoedd.